|
Rhif y ddeiseb: P-06-1510
Teitl y ddeiseb: Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau.
Testun y ddeiseb: Mae Safle Tirlenwi’r Hafod wedi achosi gofid yn y gymuned ers 18 mlynedd, felly dyma’r ymgyrch amgylcheddol hiraf yng Nghymru. Er gwaethaf ymdrechion gan y trigolion a chynrychiolwyr etholedig, mae'r safle yn parhau i ollwng arogleuon niweidiol, ac mae’n creu niwsans statudol annerbyniol. Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddiogelu’r amgylchedd, ac mae wedi methu â chymryd camau gorfodi ystyrlon, gan ddibynnu yn lle hynny ar gyfiawnhad technegol a sicrwydd amwys. Nid diffyg rheoleiddio yn unig yw hyn, ond methiant i lywodraethu. Yn 2024, cyrhaeddodd yr arogl a'r llygredd aer lefelau gofidus ac argyfyngus. Nid oedd teuluoedd yn gallu agor eu ffenestri, a gorfodwyd y plant i chwarae dan do. Os yw fframwaith rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru yn caniatáu i safle ollwng arogleuon hynod bwerus a chyson er eu bod yn parhau i gydymffurfio, yna mae’n amlwg nad yw’r rheoliadau yn addas i’r diben. Roedd eu Harolwg eu hunain diwethaf yn nodi methiannau allweddol fel injan nwy anweithredol, a oedd yn cynyddu’r nwyon tirlenwi a gâi eu rhyddhau. Capio dros dro ar gelloedd tirlenwi nad ydynt yn cynnwys yr arogleuon. Gollyngiadau cyson o fannau lluosog ar y safle. Oedi wrth uwchraddio’r seilwaith, sy’n arwain at fod y safle yn agored i ormod o allyriadau. Ym mis Mai 2020, dechreuodd tân sylweddol, a oedd yn llosgi am sawl diwrnod ac yn cynhyrchu mwg du trwchus. Cofnododd Cyfoeth Naturiol Cymru lefelau llygredd aer oedd 14 gwaith yn uwch na’r lefel a ganiateir. Os na all Cyfoeth Naturiol Cymru ddwyn Enovert i gyfrif, a’i fod wedi methu â gwneud hynny mewn 18 mlynedd, yna mae angen ymchwiliad annibynnol i’w effeithiolrwydd fel corff rheoleiddio ar frys.
Mae'r testun a ddarperir uchod wedi’i gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio. |
Mae'r papur briffio hwn yn cefnogi ymchwiliad byr y Pwyllgor Deisebau i Safle Tirlenwi’r Hafod. Mae'n diweddaru'r papur briffio cynharach a gyhoeddwyd ar gyfer ystyriaeth gyntaf y Pwyllgor o'r ddeiseb hon ar 28 Ebrill 2025.
Cafodd Mersey Waste Holdings ganiatâd i redeg hen safle chwarel yr Hafod fel safle tirlenwi yn 2004, yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gwrthod cais y cwmni yn flaenorol. Ers mis Tachwedd 2008, mae wedi cael ei weithredu gan Enovert North Ltd. (Cory Environmental Limited gynt). Mae’r safle tirlenwi yn gweithredu o dan drwydded amgylcheddol (EPR-PP3139GB) a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio safleoedd gwastraff yn unol â’i egwyddorion rheoleiddio.
Mae Hydrogen Sylffid (H2S) yn nwy sy'n cael ei ryddhau yn ystod y broses o ddadelfennu mater organig ac mae'n gysylltiedig ag arogl safleoedd tirlenwi. Fel y nodir yn adroddiad craffu awdurdod lleol mis Ebrill 2025, roedd nifer sylweddol o gwynion yn ymwneud ag arogl o'r safle yn ystod 2024. Mae'r deisebydd wedi galw ar Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu trwydded amgylcheddol y safle.
Mewn diweddariad cylchlythyr ym mis Chwefror 2025, esboniodd Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ba amgylchiadau y gall ddirymu trwydded amgylcheddol:
Mae safle tirlenwi yr Hafod yn gweithredu o dan drwydded amgylcheddol, sy’n nodi’r mathau a’r symiau o wastraff y gellir eu derbyn ar y safle. Nid yw’r rheoliadau trwyddedu yn caniatáu i ni gyfyngu ar ffynonellau’r gwastraff.
Dim ond os credwn fod y gwaith yn peri risg difrifol i’r amgylchedd neu iechyd pobl y byddwn yn dirymu trwyddedau, ac os yw pob ymgais arall i leihau’r arogl wedi’i dihysbyddu. Ar hyn o bryd, mae’r gweithredwyr yn dal i weithio drwy nifer o gamau gweithredu i fynd i’r afael â’r materion, ac rydym yn eu rheoleiddio’n graff.
Ni fyddai cau’r safle yn cael gwared ar yr arogleuon ar unwaith, gan y byddai angen rheoli trwytholch a nwy tirlenwi o hyd i leihau’r posibilrwydd o arogleuon oddi ar y safle.
Mae ein camau rheoleiddio yn cael eu harwain gan ein hegwyddorion rheoleiddio cyhoeddedig, gan sicrhau dull cytbwys a rhagweithiol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn crynhoi canfyddiadau ei arolygiadau safle, archwiliadau a gweithgareddau monitro mewn Adroddiadau Asesu Cydymffurfiaeth. Mae adroddiad cydymffurfio mis Chwefror 2025 ar gyfer Safle Tirlenwi’r Hafod yn manylu ar 5 achos o ddiffyg cydymffurfio ag amodau trwydded amgylcheddol yn ymwneud â:
§ rheoli trwytholchion;
§ nwy tirlenwi;
§ monitro clorid; a
§ monitro dŵr wyneb.
Roedd 26 achos lle cofnodwyd lefelau uwch na’r hyn a ganiateir o allyriadau methan tirlenwi yn ystod chwarter olaf 2024.
Mae tudalen we Cyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu ei gamau rheoleiddio parhaus ar gyfer y safle, gan gynnwys:
§ archwiliadau safle rheolaidd;
§ adolygu gweithdrefnau rheoli a chynlluniau gweithredu Enover; a
§ gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau bod ansawdd aer a gwaith monitro yn bodloni safonau Llywodraeth Cymru.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod wedi dweud wrth Enovert i gymryd camau i leihau allyriadau sy’n ffoi o’r safle (yn anfwriadol) yn y tymor hwy ar ddiwedd 2024. Mae hefyd wedi cyhoeddi Hysbysiad Gorfodi i Enovert ar 21 Rhagfyr 2023, a oedd yn cynnwys “sawl cam yr oedd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r cwynion am arogleon a adroddwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023.” Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod Enovert wedi cydymffurfio â'r hysbysiad, wedi cwblhau gwaith cysylltiedig, ac wedi diweddaru ei gynllun gweithredu yn ymwneud â'i weithdrefnau rheoli.
Dywed ei ddiweddariad ym mis Mawrth 2025 fod Enovert wedi gosod seilwaith newydd i gynyddu faint o nwy sy’n cael ei gasglu o’r safle, ac y bydd rhagor o offer monitro ansawdd aer yn cael eu gosod yn y dyfodol agos. O ran allyriadau arogl i ardaloedd preswyl, dywed Cyfoeth Naturiol Cymru:
“O dan amodau'r Drwydded Amgylcheddol, os yw’r gweithredwr yn cymryd mesurau priodol i reoli arogl, nid oes toriad ar y drwydded yn digwydd, hyd yn oed os oes rhywfaint o arogl yn parhau. Mae gweithredwr y safle wedi nodi mesurau priodol yn eu cynllun rheoli arogl i allyriadau; fodd bynnag, rydym yn deall bod effaith yn parhau i fod ar y gymuned. Rydym yn adolygu eu cynllun yn fanwl i benderfynu a oes angen unrhyw fesurau ychwanegol i liniaru arogleuon ymhellach.”
Sefydlwyd Grŵp Rhanddeiliaid Safle Tirlenwi’r Hafod ddechrau 2025, yn dilyn cynnydd mewn cwynion am arogleuon. Mae’r Grŵp Rhanddeiliaid yn cynnwys Enovert, Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a chynrychiolwyr cynghorau cymuned. Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ar 21 Mawrth 2025. At hynny, sefydlwyd Grŵp Cyswllt yr Hafod dros 20 mlynedd yn ôl fel fforwm ar gyfer deialog rhwng y gweithredwr a'r gymuned leol. Mae'n cael ei gadeirio gan gynghorydd lleol ac mae'n cynnwys Enovert, Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorwyr a swyddogion lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, cynghorwyr cymunedol, a phedwar trigolyn lleol.
Yn ei ddiweddariad mwyaf diweddar (mis Mai 2025), dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod nifer y digwyddiadau lle adroddwyd am arogleuon wedi gostwng yn gyson wrth i waith gwella gael ei gwblhau.
Cynhaliodd y Pwyllgor Deisebau ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol Safle Tirlenwi’r Hafod ym mis Gorffennaf ac ym mis Awst 2025. Mae'r adran hon yn crynhoi'r ymatebion ysgrifenedig a gafodd y Pwyllgor.
Mae cyflwyniad Enovert yn manylu ar ei rôl rheoli gwastraff a sut mae'n cael ei reoleiddio. Dywed fod dirywiad gwastraff mewn safleoedd tirlenwi yn cynhyrchu nwy tirlenwi a thrwytholch. Mae nwy’r safle tirlenwi yn cael ei gasglu i’w ddefnyddio fel tanwydd, tra bod y trwytholch yn cael ei storio mewn tanceri i’w brosesu’n ddiweddarach mewn cyfleusterau trin dŵr gwastraff. Mae Enovert yn darparu gwybodaeth fanwl am y mathau o wastraff y mae'n eu derbyn a ffynhonnell y gwastraff hwnnw.
O ran arogleuon, dywed Enovert ei fod yn cymryd cwynion o ddifrif ac yn ymchwilio ac yn ymateb i bob un. Dywed ei fod wedi cymryd camau unioni cyn ac ar ôl iddo gael Hysbysiad Statudol gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Rhagfyr 2023, a'i fod wedi cydymffurfio â'r holl gamau gweithredu o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt. Mae ei ymateb yn cynnwys rhestr o waith a wnaeth rhwng mis Hydref 2023 a mis Gorffennaf 2025. Dywed Enovert ei fod wedi gosod pedair gorsaf fonitro o amgylch y safle, ac mae wedi penodi ymgynghorwyr amgylcheddol annibynnol blaenllaw i asesu’r data. Dywed ei fod wedi dilyn argymhelliad yr ymgynghoriaeth i osod dyfeisiau monitro tiwbiau tryledu ychwanegol i ddarparu manylion cywir mewn perthynas â risg cysylltiad gwirioneddol.
Dywed Enovert, yn dilyn cyfarfod â’r Pwyllgor Craffu ar Gartrefi a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ei fod wedi cytuno i ariannu cynllun monitro ansawdd aer yn rhannol. Mae'r cynllun yn cynnwys monitro nwy hydrogen sylffid ar y safle ac yn y gymuned. Mewn perthynas â chyhoeddi'r data hwnnw, dywed Enovert:
“The monitoring exercise needs to gather a sufficient body of data to allow proper assessment of the air quality environment. We are awaiting the data from the instruments for the third monitoring period at the time of writing. We have agreed to provide the latest monitoring data summary, with the benefit of the third round of monitoring detail, to the Senedd Petitions Committee by 15th September for inclusion in our evidence.”
Nid yw'r data diweddaraf ar gael ar adeg paratoi'r papur briffio hwn. Fodd bynnag, gellir dod o hyd i ddata ar gyfer mis Mawrth 2025 mewn adroddiad a gynhyrchwyd ar gyfer y Pwyllgor Craffu.
Mae'r ymateb yn mynd ymlaen i wadu honiadau penodol a wnaed yn y ddeiseb. Mae hefyd yn manylu ar gyfaint y nwy tirlenwi a dynnwyd o'r safle ers mis Tachwedd 2023, sydd wedi sefydlogi ac (ar gyfartaledd) wedi gostwng ychydig.
Mewnbynnau tirlenwi’r Hafod yn 2024 yn ôl gwlad ac ardal awdurdod lleol.

Ffynhonnell: Enovert
Mae Enovert yn darparu gwybodaeth am ffynhonnell mewnbynnau gwastraff i’r Hafod yn ystod 2024. Dywed fod tua 10% o'r holl wastraff yn wastraff 'bag du' gweddilliol sy'n cael ei ddargyfeirio o weithfeydd Ynni o Wastraff. Daeth ychydig dros hanner y mewnbwn yn 2024 (54%) o Loegr, gyda'r rhan fwyaf o'r gweddill yn dod o ogledd Cymru. Ceir crynodeb uchod.
Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru dystiolaeth yn manylu ar ei gysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas ag arogleuon yn yr Hafod.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor ar werthoedd canllaw ar gyfer asesu cysylltiad y cyhoedd â hydrogen sylffid dros wahanol gyfnodau amser. Dywed nad oes angen ei hysbysu am ganfyddiadau arferol oni bai bod y data yn dangos pryderon sylweddol, e.e. mae crynodiadau'n uwch na'r safonau cysylltiad yn rheolaidd. Mae hefyd yn cynghori nad yw safonau cysylltiad galwedigaethol yn briodol ar gyfer asesu cysylltiad y cyhoedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn darparu gwybodaeth am asesu crynodiad Cyfansoddion Organig Anweddol (VOC) yn yr aer, nad yw'n cynnwys hydrogen sylffid. Mae'n awgrymu y gellid defnyddio bensen fel dewis amgen, mwy cymedrol ar gyfer asesu risgiau iechyd VOC oni bai bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu sefydlu amcangyfrif gwybodus o ba VOCs sy'n debygol o fod yn bresennol.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru fod Trwydded Amgylcheddol Enovert yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr atal arogleuon oddi ar y safle neu, lle nad yw hynny’n bosibl, ei gadw i’r lleiafswm. Dywed fod Cynllun Rheoli Arogleuon Enovert yn disgrifio sut y bydd yn cyflawni'r amod hwn. A bod rhaid i swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru asesu unrhyw ddiweddariadau i'w Gynllun.
Mae'r ymateb yn manylu ar ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o ymchwilio i arogleuon, sy'n cynnwys ymchwiliadau safle a graddfa dwyster arogleuon. Dywed mai dim ond pan fydd gweithgareddau ar y safle yn debygol o achosi llygredd oddi ar y safle y bydd achos o dorri’r amod yn cael ei gofnodi, ac nad yw'r gweithredwr yn cymryd pob mesur priodol i reoli arogleuon.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru mai dim ond pan fo rheolaeth safle gweithredol yn wael ac y gallai gweithrediad pellach y safle arwain at lygredd sylweddol, hirdymor y gall gychwyn cau safle tirlenwi. Dywed mai dim ond ar ôl archwilio pob opsiwn gorfodi arall y defnyddir hysbysiad cau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu amserlen o ddigwyddiadau arwyddocaol yn hanes rheoleiddio’r Hafod, sydd wedi'u crynhoi yn y tabl isod:
Hanes diweddar gweithgarwch rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr Hafod
|
Dyddiad |
Digwyddiad |
|
Hydref 2023 |
Cynnydd mawr yn nifer yr adroddiadau am achosion lle adroddwyd am arogleuon. |
|
21 Rhagfyr 2023 |
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru Hysbysiad Cydymffurfio i Enovert i fynd i'r afael â’r arogleuon. |
|
31 Ionawr 2024 |
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon bod Enovert wedi cydymffurfio â'r Hysbysiad. |
|
21 Mawrth 2025: |
Mwy o allyriadau nwy wedi'u nodi, mae Enovert yn cynnig mwy o fesurau adfer. |
|
23 Mai 2025: |
Mae ymweliad dilynol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn canfod gwelliant cyffredinol, ond mae rhai arogleuon dros dro yn dal i gael eu canfod. |
|
Tachwedd 2024 |
Mae tîm Prosiect Lleihau Allyriadau Tirlenwi (LERP) Cyfoeth Naturiol Cymru yn archwilio’r Hafod, ac yn rhoi argymhellion a chamau gweithredu i Enovert mewn Adroddiad Asesu Cydymffurfiaeth. |
|
Rhagfyr – Ionawr 2016 |
Cynnydd mewn adroddiadau am achosion lle adroddwyd am arogleuon. Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau bod arogleuon oddi ar y safle yn bresennol. |
|
Ar ôl 6 Ionawr |
Mae adroddiadau am achosion lle adroddwyd am arogleuon yn lleihau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal arolygiadau ac archwiliadau safle heb rybudd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried gorfodi ychwanegol o ran trwytholch. |
Darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd hanes manylach o gamau gorfodi diweddar i gyfarfod Pwyllgor Craffu ar Gartrefi a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 29 Ebrill 2025.
Mae cyflwyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i'r ymchwiliad yn disgrifio hanes y safle a gwaith y cyngor wrth fynd i'r afael â phryderon y gymuned ynghylch y safle tirlenwi.
Trafodd y Pwyllgor Craffu ar Gartrefi a'r Amgylchedd gwynion am y safle yn ystod cyfarfodydd ym mis Mehefin 2024 a mis Ebrill 2025. Lluniodd adroddiad ym mis Hydref 2024 hefyd. Ymhlith y prif argymhellion a gododd o'r cyfarfod diweddaraf mae:
§ ystyried adroddiad diweddaru arall ymhen chwe mis – dylai’r adroddiad fanylu ar unrhyw wenwyndra sy’n gysylltiedig â’r safle ac effeithiau iechyd cysylltiedig;
§ dylai'r cyngor archwilio i’r syniad o ehangu gwaith monitro ansawdd aer yn y gymuned; ac
§ os yw’r monitro'n dangos arogleuon ‘uwchlaw'r terfynau derbyniol’, dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam archwilio ei bwerau o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Deddf 1990) i fynd i'r afael â'r rhain.
Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod gan ei swyddogion bwerau gorfodi i fynd i'r afael â 'niwsans statudol' o dan Ddeddf 1990, ond ei bolisi yw i'r sefydliad sydd â blaenoriaeth (Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr achos hwn) weithredu camau ffurfiol. Dywed y byddai angen caniatâd Gweinidogion Cymru ar gyfer unrhyw erlyniad dan arweiniad awdurdod lleol.
Dywed y Cyngor fod ei swyddogion wedi penderfynu ar yr opsiynau gorau ar gyfer monitro ansawdd aer ar gyfer hydrogen sylffid a chyfansoddion organig anweddol. Gosodwyd pedwar monitor Pod AQMesh gan Enovert o amgylch Safle Tirlenwi’r Hafod ym mis Chwefror a mis Mawrth 2025, ac maent yn cael eu gweithredu gan y cwmni. Gosodwyd monitor ychwanegol ac mae'n cael ei weithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown, ac mae ail fonitor i'w osod ym Mhafiliwn Bowlio Johnstown a Nant Parc. Gall data o fonitorau gael eu gwirio mewn amser real gan bersonél tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Enovert. Fodd bynnag, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fydd yn cymhwyso’r gwaith o ddehongli’r data hyn:
“It is important to stress that the data from AQMesh Pods is qualitative. Quantitative data can only be provided when a stringent QC plan is in place with access to reference instruments. The options to implement this process is being pursued with Enovert and Geotechnology.”
Yn ogystal â'r Podiau AQMesh, dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod tiwbiau tryledu hydrogen sylffid wedi'u cydleoli â'r monitorau a'u defnyddio mewn lleoliadau cyfagos eraill hefyd. Dywed fod hyn i bennu cywirdeb y monitorau amser real a gwirio am ffynonellau eraill o H2S.
Cwmni o'r enw Geotechnology, sy'n cael ei gyflogi gan Enovert, fydd yn dehongli’r data. Dywed fod adroddiadau'n cael eu darparu i'r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Enovert, ac y byddant ar gael i'r cyhoedd drwy dudalennau gwe dinasyddion Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw'n glir a fydd y data crai eu hunain yn cael eu cyhoeddi. Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ei fod wedi newid ei ddehongliad o drothwyon hydrogen sylffid yn dilyn gohebiaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac y bydd nawr yn cymharu darlleniadau â chanllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a Lefelau Canllaw Cysylltiad Acíwt.
Cynhaliodd swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam asesiadau dyddiol o lefel yr arogl o amgylch Safle Tirlenwi’r Hafod o ganol mis Gorffennaf i ganol mis Awst 2025. Mewn 85% o asesiadau, ni chanfuwyd unrhyw arogleuon. Pan ganfuwyd arogleuon, roedd hyn gan amlaf yn un o dri safle yn union gerllaw'r safle tirlenwi ar ei ffin ddwyreiniol. Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fod ei ganlyniadau’n dangos nad oes unrhyw ganfyddiad o niwsans statudol o ran arogleuon ar hyn o bryd yn ymwneud â safle tirlenwi’r Hafod.
Cyflwynodd tri chynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy'n cynrychioli wardiau o amgylch Safle Tirlenwi’r Hafod ymateb ar y cyd i ymchwiliad y Pwyllgor, sef:
§ Y Cynghorydd David A Bithell (Dirprwy Arweinydd y Grŵp Annibynnol);
§ Y Cynghorydd Steve Joe Jones (Cynghorydd Annibynnol);
§ Y Cynghorydd Dana Davies (Arweinydd y Grŵp Llafur).
Mae'r ymateb yn dweud bod llai o gwynion wedi bod yn ystod 2025 o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol a bod Enovert wedi bod yn fwy rhagweithiol yn ddiweddar wrth weithio gyda rhanddeiliaid eraill. Fodd bynnag, mae'n rhoi amod ar hyn drwy ddweud bod angen gwella cyfathrebu cyhoeddus i ailadeiladu ymddiriedaeth a dangos bod camau'n cael eu cymryd pan fydd problemau'n codi. Dywed y Cynghorwyr eu bod yn cefnogi mesurau a fydd yn lleihau lefel yr arogl, yn rhoi sicrwydd iechyd y cyhoedd, yn lleihau cwynion, ac yn sicrhau atebolrwydd, gan bwysleisio’r angen am gefnogaeth a goruchwyliaeth barhaus.
Ysgrifennodd y Deisebydd at y Pwyllgor yn gofyn am eglurder gan Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn pum maes:
§ asesiad Cyfoeth Naturiol Cymru o effeithiau iechyd a niwsans oddi ar y safle;
§ Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn arfer pwerau statudol;
§ tryloywder setiau data monitro;
§ gorfodi mewn perthynas â lefelau hydrogen sylffid; a
§ chanfyddiadau ynghylch a yw rheoleiddwyr yn gweithredu i amddiffyn y cyhoedd.
Dywed preswylydd arall sy'n ymateb i'r Pwyllgor fod Enovert a Cyfoeth Naturiol Cymru weithiau wedi priodoli arogleuon i weithgarwch amaethyddol, yn hytrach na'r safle tirlenwi.
Mae'r deisebydd a'r preswylydd arall ill dau yn awgrymu mai blinder cwynion sydd o bosib yn gyfrifol am y gostyngiad diweddar yn nifer y cwynion a adroddir i Cyfoeth Naturiol Cymru, hynny yw, nad yw preswylwyr bellach yn adrodd arogleuon oherwydd eu bod bellach yn teimlo ei fod yn wastraff amser.
Mynegodd trigolion bryder ynghylch eu diffyg cynrychiolaeth yng Ngrŵp Rhanddeiliaid yr Hafod, a sefydlwyd yn gynharach eleni.
Yn ei ymateb i’r ddeiseb, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yn dweud ei fod wedi cyfarfod â swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ac uwch-reolwyr Enovert i drafod safle tirlenwi’r Hafod ar 19 Mawrth 2025. Mae’n dweud bod materion y safle yn rhai rheoleiddiol a gweithredol, felly mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y camau rheoleiddio priodol, ac felly dywed nad yw’n teimlo bod angen cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded. Mae cyflwyniad Enovert yn dweud bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ysgrifennu at y cwmni ar ôl yr ymweliad:
“…to encourage Enovert to ensure compliance with the site’s Environmental Permit through engagement with NRW, and the importance of engaging with the public regarding any necessary maintenance and infrastructure works at the site”
Trafododd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb hon yn wreiddiol ar 28 Ebrill 2025. Ar 16 Mehefin 2025, cytunodd i gynnal ymchwiliad byr i faterion heb eu datrys sy'n gysylltiedig â'r safle. Roedd hyn yn cynnwys gwahodd swyddogion Enovert, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor.
Ar 14 Ionawr 2025, gofynnodd Gareth Davies AS i’r Trefnydd am ddatganiad yn gysylltiedig â’r safle, gan godi pryderon etholwyr ynghylch llawer iawn o wastraff sy’n dod o Loegr. Gofynnodd i’r Ysgrifennydd Cabinet:
…amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol yn Lloegr i sicrhau nad oes rhaid i drigolion y gogledd dalu am fethiannau awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin Lloegr?
Ymatebodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip gan ddweud:
Rydych wedi codi cwestiwn a mater penodol iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Dirprwy Brif Weinidog, a bydd yn dod o hyd i ffordd briodol o ymateb i hwnnw. Diolch am ei godi.
Ar 28 Ionawr 2025, gofynnodd Mark Isherwood AS i’r Trefnydd am ddatganiad ar safle tirlenwi yr Hafod, gan gyfeirio cwynion etholwyr Johnstown am ddrewdod a’r “diffyg gweithredu amlwg ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru i atal hwnnw”. Dywedodd y Trefnydd y bydd y pwynt yn cael ei gofnodi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Ar 10 Mehefin 2020, yn dilyn tân yn y safle tirlenwi, gofynnodd Llyr Gruffydd AS i’r Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford AS, am ymchwiliad annibynnol i achos y tân ac i gau’r safle tirlenwi yn y cyfamser. Dywedodd y Prif Weinidog fod gan nifer o awdurdodau gyfrifoldebau i ddarparu adroddiadau am y tân, a “bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiadau hynny ac yna'n penderfynu pa gamau pellach y gallai fod eu hangen.”
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |